Yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chanllawiau Teithio Llesol wedi'u diweddaru ac fe wnaethon ni edrych drwyddynt gyda diddordeb ar ôl ymateb i'r ymgynghoriad cyn yr etholiad - ac ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Teithio Llesol a'r Gweinidog newydd heb gael ateb.
Rydym yn awyddus iawn bod profiadau menywod yn cael eu hystyried a chydnabod croestoriadoldeb eu profiadau.
Dyma ein dadansoddiad o'r newidiadau a'r hyn y mae'n ei olygu i fenywod a merched. Efallai ein bod wedi methu rhywbeth, ond mae'n ddechrau da. A byddwn yn cadw'r ffocws arno wrth i Awdurdodau Lleol weithredu llwybrau teithio llesol ledled Cymru.