Merched Pontypridd United yn ennill Cynghreiriau'r Adran yn 2025. Mae'r tîm yn dal y tlws ac yn dathlu gyda siampên.

Hawlfraint Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae Chwaraeon Menywod Cymru yn sefydliad elusennol, dielw sy'n ymroddedig i sicrhau bod gan fenywod a merched ledled Cymru gyfleoedd cyfartal mewn chwaraeon.

Mae ein gweledigaeth yn syml, yn frys ac yn glir

Cyfleoedd teg i fenywod a merched mewn chwaraeon yng Nghymru

Ar draws cyfranogiad, arweinyddiaeth a buddsoddiad, mae menywod a merched yn dal i wynebu anghydraddoldeb parhaus. Mae angen i hyn newid.

Sut fyddwn ni’n gwneud hyn…

Mae ein Gwerthoedd yn fframio sut rydym yn gweithredu, a'r hyn y gall eraill ddisgwyl ei weld gennym

  • TARFU'N GADARNHAOL - Rydym yn herio'r status quo gyda dewrder a pharch.

  • CYNHWYSIAD YSTYRLWYR - Rydym yn dyrchafu pob menyw, gyda ffocws ar y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol.

  • CYDWEITHREDU BWRPASOL - Rydym yn meithrin partneriaethau bwriadol i gyflymu cydraddoldeb rhywedd mewn chwaraeon. 

Ein Hanes - Gwyliwch Hi'n Mynd

Wedi'i lansio yn y Senedd yn 2019, tynnodd yr ymgyrch Watch Her Go sylw at botensial enfawr menywod mewn chwaraeon yng Nghymru nad oedd yn cael ei wireddu.

Roedd rhai o’r lleisiau mwyaf mewn chwaraeon Cymru a thu hwnt yn bresennol ac wedi ymrwymo i helpu i wneud y newid sydd ei angen.

Y Pandemig a datblygiad Chwaraeon Menywod Cymru

Oherwydd y pandemig, yn anffodus nid oedd mudiad Amdani yn gallu tyfu. Trwy sgyrsiau gyda'r trefnwyr gwreiddiol, daeth datblygiad Chwaraeon Menywod Cymru at ei gilydd yn araf o dan dair colofn glir i gefnogi newid i fenywod mewn chwaraeon yng Nghymru.