Mae merched yn dal i golli cyfleoedd yn yr ysgol
“ Nid yw’r canlyniadau hyn yn annisgwyl, ond maent yn atgyfnerthu’r hyn rydyn ni wedi’i wybod ers peth amser am berthynas merched â chwaraeon. Mae merched yn dweud wrthym yn gyson fod teimlo’n ddiogel, teimlo’n hyderus, cael hyfforddwyr cefnogol a bod gyda ffrindiau yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ag ennill.
Yn rhy aml, rydym yn canolbwyntio ar gystadleuaeth a chanlyniadau, ond mae merched yn dweud wrthym mai amgylcheddau cadarnhaol a pherthnasoedd cryf yw'r hyn sy'n eu cadw'n ymgysylltu. Os ydym am i fwy o ferched chwarae, aros a ffynnu mewn chwaraeon, rhaid inni greu mannau lle maent yn teimlo'n gartrefol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn hyderus i fod yn nhw eu hunain.
Gwrandewch ar ferched, a bydd cyfranogiad yn dilyn ”