Elliw Gwawr

Mae Elliw Gwawr wedi gweithio fel newyddiadurwraig yn y BBC ers 18 mlynedd. Fel gohebydd gwleidyddol mae hi wedi gweithio yn San Steffan a'r Senedd, gan gyfweld ag arweinwyr gwleidyddol a rhoi sylw i rai o straeon gwleidyddol mwyaf y blynyddoedd diwethaf.

Mae hi'n cyfrannu'n rheolaidd at raglenni newyddion Wales Today a Newyddion yn ogystal ag ar Radio Wales a Radio Cymru. Mae Elliw fwyaf balch o'i gwaith ar straeon sy'n datgelu cam-drin rhywiol a bwlio mewn gwleidyddiaeth. Mae hi'n eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb mewn cymdeithas, ac yn hyrwyddwr chwaraeon menywod a merched. Mae hi'n gwirfoddoli gyda'r clwb criced lleol ac wedi ailddarganfod gymnasteg fel oedolyn.

Blaenorol
Blaenorol

Y Dywysoges Onyeanusi

Nesaf
Nesaf

Michael Peacock