Mae Chwaraeon Menywod Cymru yn falch o fod yn rhan o raglen ArcHER Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan gynnal digwyddiad ddydd Mercher 29 Ionawr 2025 .
Mae rhaglen ArcHER yn trawsnewid y dirwedd i fenywod mewn chwaraeon, ac mae wedi ymrwymo i greu amgylchedd teg i bob menyw fod yn egnïol yn gorfforol. Bron i flwyddyn ar ôl ein digwyddiad lansio, bydd Chwaraeon Menywod Cymru yn cyflwyno trosolwg o'n gwaith a'n bwriad strategol, gyda golwg ar sut rydym yn Cysylltu, yn Dathlu ac yn Eiriol dros Fenywod mewn Chwaraeon yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau i Fwrdd Chwaraeon Menywod Cymru ac i drafod ein bwriad a sut rydym yn bwriadu mynd ati i wneud hynny. Rydym yn awyddus i gwrdd â phobl o'r un anian a fydd yn gallu cefnogi ein gwaith a lledaenu'r neges yn eu rhwydweithiau.